Leviticus 23

1Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 2“Dywed wrth bobl Israel:

“Dw i wedi dewis amserau penodol i chi eu cadw fel gwyliau pan fyddwch chi'n dod at eich gilydd i addoli:

Y Saboth Wythnosol

3“Mae chwech diwrnod i chi allu gweithio, ond mae'r seithfed diwrnod yn Saboth. Diwrnod i chi orffwys a dod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio ble bynnag fyddwch chi'n byw. Mae'r diwrnod yma yn Saboth i'r Arglwydd.

4“Dyma'r gwyliau penodol eraill pan mae'r Arglwydd am i chi ddod at eich gilydd i addoli:

Y Pasg a Gŵyl y Bara Croyw

(Numeri 28:16-25)

5“Mae Pasg yr Arglwydd i gael ei ddathlu pan mae'n dechrau nosi ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf.
23:5 mis cyntaf Abib (sydd hefyd yn cael ei alw yn Nisan), sef mis cyntaf y calendr Hebreig, o tua canol Mawrth i ganol Ebrill.
b

6“Mae Gŵyl y Bara Croyw yn dechrau ar y pymthegfed o'r mis hwnnw. Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara sydd heb furum ynddo. 7Ar y diwrnod cyntaf rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma. 8Rhaid i chi gyflwyno offrwm i'w losgi i'r Arglwydd bob dydd, ac ar y seithfed diwrnod dod at eich gilydd i addoli eto, a peidio gwneud eich gwaith arferol.”

Cyflwyno ffrwythau cyntaf y cynhaeaf

9Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses, 10“Dywed wrth bobl Israel:

“Pan fyddwch chi wedi cyrraedd y wlad dw i'n ei rhoi i chi, ac yn casglu'r cynhaeaf, mae'r ysgub gyntaf o bob cnwd i gael ei roi i'r offeiriad. 11Ar y diwrnod ar ôl y Saboth mae'r offeiriad i gymryd yr ysgub a'i chwifio o flaen yr Arglwydd, a bydd Duw yn ei derbyn hi. 12Ar y diwrnod hwnnw hefyd rhaid i chi gyflwyno oen blwydd oed heb nam arno yn aberth i'w losgi'n llwyr i'r Arglwydd. 13Gydag e rhaid llosgi dau gilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd. Mae'n rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r Arglwydd, gydag offrwm o ddiod hefyd, sef litr o win. 14Peidiwch bwyta dim o'r grawn, fel y mae neu wedi ei grasu, na bara wedi ei wneud ohono chwaith, nes byddwch chi wedi cyflwyno'r offrwm yma. Fydd y rheol yma byth yn newid ble bynnag fyddwch chi'n byw.

Gŵyl y Cynhaeaf

(Numeri 28:26-31)

15“Saith wythnos union ar ôl y diwrnod pan oedd yr ysgub yn cael ei chodi yn offrwm i'r Arglwydd, rwyt i ddod ac offrwm arall o rawn newydd. 16Mae hyn i ddigwydd bum deg diwrnod wedyn, sef y diwrnod ar ôl y seithfed Saboth. 17Tyrd â dwy dorth o fara i'w codi a'u chwifio o flaen yr Arglwydd. Maen nhw i gael eu gwneud o ddau gilogram o'r blawd gwenith gorau, a'u pobi gyda burum, fel offrwm wedi ei wneud o rawn cnwd cynta'r cynhaeaf.

18“Hefyd rhaid cyflwyno saith oen sy'n flwydd oed, tarw ifanc, a dau hwrdd. Anifeiliaid heb unrhyw nam arnyn nhw, i'w llosgi'n llwyr yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd i'r Arglwydd, gyda'r offrwm o rawn a'r offrwm o ddiod sydd i fynd gyda pob un. 19Rwyt i gyflwyno bwch gafr yn offrwm i lanhau o bechod, a dau oen gwryw blwydd oed yn offrwm i gydnabod mor dda ydw i. 20Rhaid i'r offeiriad eu codi nhw – sef y ddau oen – a'u chwifio nhw o flaen yr Arglwydd gyda'r bara sydd wedi ei wneud o rawn cnwd cynta'r cynhaeaf. Byddan nhw wedi eu cysegru ac yn cael eu rhoi i'r offeiriaid. 21Dych chi i ddathlu ar y diwrnod yma, a dod at eich gilydd i addoli. Peidio gwneud gwaith fel arfer. Fydd y rheol yma byth yn newid, ble bynnag fyddwch chi'n byw.

22“Pan fyddi'n casglu'r cynhaeaf, rhaid i ti beidio casglu'r cwbl o bob cornel o'r cae. A paid mynd drwy'r cae yn casglu popeth sydd wedi ei adael ar ôl. Rhaid i ti adael peth i bobl dlawd, a'r rhai sydd ddim yn bobl Israel. Fi ydy'r Arglwydd eich Duw chi.”

Gŵyl yr Utgyrn

(Numeri 29:1-6)

23Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 24“Dywed wrth bobl Israel: Ar ddiwrnod cyntaf y seithfed mis
23:24 seithfed mis gw. y sylw ar 16:29.
dych chi i orffwys yn llwyr. Diwrnod y cofio, yn cael ei gyhoeddi drwy ganu utgyrn, pan fyddwch chi'n dod at eich gilydd i addoli.
25Peidiwch gweithio fel arfer, ond dod a chyflwyno rhoddion i'w llosgi i'r Arglwydd.”

Y Dydd i wneud pethau'n iawn

(Numeri 29:7-11)

26Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 27“Y degfed diwrnod o'r seithfed mis ydy'r diwrnod i wneud pethau'n hollol iawn rhyngoch chi â Duw. Rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Rhaid i chi beidio bwyta, i ddangos eich bod chi'n sori am eich pechod, a dod â rhoddion i'w llosgi i'r Arglwydd. 28Peidiwch gweithio ar y diwrnod yna, am mai'r diwrnod i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi â'r Arglwydd eich Duw ydy e. 29Yn wir, os bydd rhywun yn gwrthod mynd heb fwyd, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw. 30Ac os bydd unrhyw un yn gweithio ar y diwrnod hwnnw, bydda i'n dinistrio'r person hwnnw – bydd e'n marw. 31Rhaid i chi beidio gweithio! Fydd y rheol yma byth yn newid, ble bynnag fyddwch chi'n byw. 32Mae'r diwrnod yma yn ddiwrnod o orffwys llwyr i chi, fel y Saboth. Rhaid i chi beidio bwyta o'r amser pan fydd hi'n nosi y noson cynt nes iddi nosi y diwrnod hwnnw. Rhaid i chi ei gadw fel Saboth.”

Gŵyl y Pebyll

(Numeri 29:12-40)

33Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 34“Dywed wrth bobl Israel: Ar y pymthegfed diwrnod o'r seithfed mis
23:34 seithfed mis tua canol Medi i ganol Hydref
rhaid i bawb ddathlu Gŵyl y Pebyll am saith diwrnod.
35Does neb i weithio ar ddiwrnod cynta'r Ŵyl. Byddwch yn dod at eich gilydd i addoli. 36Rhaid i chi gyflwyno offrwm i'w losgi i'r Arglwydd bob dydd am saith diwrnod. Ar yr wythfed diwrnod byddwch yn dod at eich gilydd i addoli, a chyflwyno rhoddion i'r Arglwydd. Dyma'r diwrnod olaf i chi ddod at eich gilydd. Rhaid i chi beidio gweithio o gwbl.

37“Dyma'r gwyliau penodol dw i wedi eu dewis i chi ddod at eich gilydd i addoli. Rhaid i chi gyflwyno rhoddion i'r Arglwydd – offrymau i'w llosgi'n llwyr, offrymau o rawn, aberthau, a'r offrymau o ddiod sydd wedi eu penodi ar gyfer bob dydd. 38Hyn i gyd heb sôn am Sabothau'r Arglwydd, eich rhoddion, eich offrymau wrth wneud addewid, a'r offrymau dych chi'n eu rhoi o'ch gwirfodd i'r Arglwydd.

39“Ar y pymthegfed diwrnod o'r seithfed mis, pan fyddwch wedi casglu'ch cnydau i gyd, rhaid i chi ddathlu a chynnal Gŵyl i'r Arglwydd am saith diwrnod. Mae'r diwrnod cyntaf i fod yn ddiwrnod o orffwys llwyr, a'r wythfed diwrnod hefyd. 40Ar y diwrnod cyntaf dych chi i gymryd canghennau o'r coed ffrwythau gorau – canghennau coed palmwydd, a choed deiliog eraill a'r helyg sy'n tyfu ar lan yr afon – a dathlu o flaen yr Arglwydd eich Duw am saith diwrnod. 41Rhaid i chi ddathlu'r Ŵyl yma i'r Arglwydd am saith diwrnod bob blwyddyn. Mae'n rheol sydd i'w gadw bob amser yn y seithfed mis. 42Rhaid i chi aros mewn lloches dros dro am saith diwrnod. Mae pobl Israel i gyd i aros ynddyn nhw, 43er mwyn i'ch plant chi wybod fy mod i wedi gwneud i bobl Israel aros mewn llochesau felly pan ddes i â nhw allan o wlad yr Aifft. Fi ydy'r Arglwydd eich Duw chi.”

44Felly dwedodd Moses wrth bobl Israel am y gwyliau penodol oedd yr Arglwydd eisiau iddyn nhw eu cadw.

Copyright information for CYM